Ioan 7:37-41
Ioan 7:37-41 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’ ” (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi’i anrhydeddu.) Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o’r bobl yn dweud, “Y Proffwyd soniodd Moses amdano ydy’r dyn yma, siŵr o fod!” Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?
Ioan 7:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.” Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto. Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.” Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod?
Ioan 7:37-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.) Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist?