Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 7:25-38

Ioan 7:25-38 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy’r dyn maen nhw’n ceisio’i ladd? Mae e yma yn siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw’n dweud dim! Tybed ydy’r awdurdodau wedi dod i’r casgliad mai fe ydy’r Meseia? Ond wedyn, dŷn ni’n gwybod o ble mae’r dyn yma’n dod; pan ddaw’r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae’n dod.” A dyma Iesu, oedd yn dysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, yn cyhoeddi’n uchel, “Ydych chi’n fy nabod i? Ydych chi’n gwybod o ble dw i’n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw go iawn sydd wedi fy anfon i, ond dych chi ddim yn ei nabod e. Dw i’n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy’r un anfonodd fi.” Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw’n ceisio’i ddal, ond lwyddodd neb i’w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw’r Meseia, fydd e’n gallu gwneud mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?” Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o’r deml i’w arestio. Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i’n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.” Meddai’r arweinwyr Iddewig, “I ble mae’r dyn yma ar fin mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e’n mynd at ein pobl ni sy’n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? Beth mae’n e’n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi’n methu dod i ble bydda i’?” Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’ ”

Ioan 7:25-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dechreuodd rhai o drigolion Jerwsalem ddweud, “Onid hwn yw'r dyn y maent yn ceisio ei ladd? A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia? Ac eto, fe wyddom ni o ble y mae'r dyn yma'n dod; ond pan ddaw'r Meseia, ni bydd neb yn gwybod o ble y mae'n dod.” Ar hynny, cyhoeddodd Iesu'n uchel, wrth ddysgu yn y deml, “Yr ydych yn f'adnabod i ac yn gwybod o ble rwy'n dod. Ond nid wyf wedi dod ohonof fy hun. Y mae'r hwn a'm hanfonodd i â'i hanfod yn wirionedd, ond nid ydych chwi'n ei adnabod ef. Yr wyf fi'n ei adnabod ef, oherwydd oddi wrtho ef y deuthum, ac ef a'm hanfonodd.” Am hynny ceisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno, oherwydd nid oedd ei awr ef wedi dod eto. Credodd llawer o blith y dyrfa ynddo, ac meddent, “A fydd y Meseia, pan ddaw, yn gwneud mwy o arwyddion nag a wnaeth y dyn hwn?” Clywodd y Phariseaid y dyrfa'n sibrwd y pethau hyn amdano. Ac fe anfonodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid swyddogion i'w ddal ef. Felly dywedodd Iesu, “Am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi, ac yna af at yr hwn a'm hanfonodd i. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd imi; lle yr wyf fi ni allwch chwi ddod.” Meddai'r Iddewon wrth ei gilydd, “I ble mae hwn ar fynd, fel na bydd i ni gael hyd iddo? A yw ar fynd, tybed, at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid, a dysgu'r Groegiaid? Beth yw ystyr y gair hwn a ddywedodd, ‘Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd i mi; lle yr wyf fi, ni allwch chwi ddod’?” Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.”

Ioan 7:25-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn? Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid? Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod? Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd