Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 7:1-53

Ioan 7:1-53 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw o Jwdea yn fwriadol am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll (un arall o wyliau’r Iddewon) yn agos, dyma frodyr Iesu’n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i’r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud! Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o’r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau yma, dangos dy hun i bawb!” (Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.) “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. Dydy’r byd ddim yn gallu’ch casáu chi, ond mae’n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae’n ei wneud yn ddrwg. Ewch chi i’r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i’r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea. Ond ar ôl i’w frodyr fynd i’r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno’n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw. Roedd llawer o siarad amdano’n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd hi dros hanner ffordd drwy’r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut mae’r dyn yma’n gwybod cymaint heb fod wedi cael ei hyfforddi?” Atebodd Iesu, “Dw i ddim yn dysgu ohono i’n hun. Mae’n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. Bydd pwy bynnag sy’n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i’n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. Mae’r rhai sy’n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw’u hunain, ond mae’r un sy’n gweithio i anrhydeddu’r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. Oni wnaeth Moses roi’r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi’n ufudd i’r Gyfraith. Pam dych chi’n ceisio fy lladd i?” “Mae cythraul yn dy wneud di’n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy’n ceisio dy ladd di?” Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau’r genedl), a dych chi’n enwaedu bachgen ar y Saboth. Nawr, os ydy’n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.” Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy’r dyn maen nhw’n ceisio’i ladd? Mae e yma yn siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw’n dweud dim! Tybed ydy’r awdurdodau wedi dod i’r casgliad mai fe ydy’r Meseia? Ond wedyn, dŷn ni’n gwybod o ble mae’r dyn yma’n dod; pan ddaw’r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae’n dod.” A dyma Iesu, oedd yn dysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, yn cyhoeddi’n uchel, “Ydych chi’n fy nabod i? Ydych chi’n gwybod o ble dw i’n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw go iawn sydd wedi fy anfon i, ond dych chi ddim yn ei nabod e. Dw i’n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy’r un anfonodd fi.” Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw’n ceisio’i ddal, ond lwyddodd neb i’w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw’r Meseia, fydd e’n gallu gwneud mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?” Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o’r deml i’w arestio. Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i’n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.” Meddai’r arweinwyr Iddewig, “I ble mae’r dyn yma ar fin mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e’n mynd at ein pobl ni sy’n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? Beth mae’n e’n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi’n methu dod i ble bydda i’?” Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’ ” (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi’i anrhydeddu.) Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o’r bobl yn dweud, “Y Proffwyd soniodd Moses amdano ydy’r dyn yma, siŵr o fod!” Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? Onid ydy’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu’r Brenin Dafydd ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?” Felly roedd y dyrfa wedi’i rhannu – rhai o’i blaid ac eraill yn ei erbyn. Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i’w gyffwrdd. Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?” “Does neb erioed wedi siarad fel y dyn yma,” medden nhw. “Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi’ch twyllo chi hefyd?” “Oes unrhyw un o’r arweinwyr neu o’r Phariseaid wedi credu ynddo? Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy’n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!” Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu’n gynharach), a gofynnodd, “Ydy’n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf, er mwyn darganfod y ffeithiau?” Medden nhw wrtho, “Wyt ti’n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i’r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!” Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre.

Ioan 7:1-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl hyn bu Iesu'n teithio o amgylch yng Ngalilea. Ni fynnai fynd o amgylch yn Jwdea, oherwydd yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano i'w ladd. Yr oedd gŵyl yr Iddewon, gŵyl y Pebyll, yn ymyl, ac felly dywedodd ei frodyr wrtho, “Dylit adael y lle hwn a mynd i Jwdea, er mwyn i'th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd yr wyt ti'n eu gwneud. Oherwydd nid yw neb sy'n ceisio bod yn yr amlwg yn gwneud dim yn y dirgel. Os wyt yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i'r byd.” Nid oedd hyd yn oed ei frodyr yn credu ynddo. Felly dyma Iesu'n dweud wrthynt, “Nid yw'r amser yn aeddfed i mi eto, ond i chwi y mae unrhyw amser yn addas. Ni all y byd eich casáu chwi, ond y mae'n fy nghasáu i am fy mod i'n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl. Nid wyf fi'n mynd i fyny i'r ŵyl hon, oherwydd nid yw fy amser i wedi dod i'w gyflawniad eto.” Wedi dweud hyn fe arhosodd ef yng Ngalilea. Ond pan oedd ei frodyr wedi mynd i fyny i'r ŵyl, fe aeth yntau hefyd i fyny, nid yn agored ond yn ddirgel, fel petai. Yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano yn yr ŵyl ac yn dweud, “Ble mae ef?” Yr oedd llawer o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd: rhai yn dweud, “Dyn da yw ef”, ond “Na,” meddai eraill, “twyllo'r bobl y mae.” Er hynny, nid oedd neb yn siarad yn agored amdano, rhag ofn yr Iddewon. Pan oedd yr ŵyl eisoes ar ei hanner, aeth Iesu i fyny i'r deml a dechrau dysgu. Yr oedd yr Iddewon yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut y mae gan hwn y fath ddysg, ac yntau heb gael hyfforddiant?” Atebodd Iesu hwy, “Nid eiddof fi yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu, ond eiddo'r hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n ewyllysio gwneud ei ewyllys ef, caiff wybod a yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, ai ynteu siarad ohonof fy hunan yr wyf. Y mae'r sawl sy'n siarad ohono'i hun yn ceisio anrhydedd iddo'i hun; ond y mae'r sawl sy'n ceisio anrhydedd i'r hwn a'i hanfonodd yn ddiffuant ac yn ddiddichell. Onid yw Moses wedi rhoi'r Gyfraith i chwi? Ac eto nid oes neb ohonoch yn cadw'r Gyfraith. Pam yr ydych yn ceisio fy lladd i?” Atebodd y dyrfa, “Y mae cythraul ynot. Pwy sy'n ceisio dy ladd di?” Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth? Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.” Yna dechreuodd rhai o drigolion Jerwsalem ddweud, “Onid hwn yw'r dyn y maent yn ceisio ei ladd? A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia? Ac eto, fe wyddom ni o ble y mae'r dyn yma'n dod; ond pan ddaw'r Meseia, ni bydd neb yn gwybod o ble y mae'n dod.” Ar hynny, cyhoeddodd Iesu'n uchel, wrth ddysgu yn y deml, “Yr ydych yn f'adnabod i ac yn gwybod o ble rwy'n dod. Ond nid wyf wedi dod ohonof fy hun. Y mae'r hwn a'm hanfonodd i â'i hanfod yn wirionedd, ond nid ydych chwi'n ei adnabod ef. Yr wyf fi'n ei adnabod ef, oherwydd oddi wrtho ef y deuthum, ac ef a'm hanfonodd.” Am hynny ceisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno, oherwydd nid oedd ei awr ef wedi dod eto. Credodd llawer o blith y dyrfa ynddo, ac meddent, “A fydd y Meseia, pan ddaw, yn gwneud mwy o arwyddion nag a wnaeth y dyn hwn?” Clywodd y Phariseaid y dyrfa'n sibrwd y pethau hyn amdano. Ac fe anfonodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid swyddogion i'w ddal ef. Felly dywedodd Iesu, “Am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi, ac yna af at yr hwn a'm hanfonodd i. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd imi; lle yr wyf fi ni allwch chwi ddod.” Meddai'r Iddewon wrth ei gilydd, “I ble mae hwn ar fynd, fel na bydd i ni gael hyd iddo? A yw ar fynd, tybed, at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid, a dysgu'r Groegiaid? Beth yw ystyr y gair hwn a ddywedodd, ‘Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd i mi; lle yr wyf fi, ni allwch chwi ddod’?” Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.” Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto. Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.” Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod? Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?” Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef. Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno. Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?” Atebodd y swyddogion, “Ni lefarodd neb erioed fel hyn.” Yna dywedodd y Phariseaid, “A ydych chwithau hefyd wedi eich twyllo? A oes unrhyw un o'r llywodraethwyr wedi credu ynddo, neu o'r Phariseaid? Ond y dyrfa yma nad yw'n gwybod dim am y Gyfraith, dan felltith y maent.” Yr oedd Nicodemus, y dyn oedd wedi dod ato o'r blaen, yn un ohonynt; meddai ef wrthynt, “A yw ein Cyfraith ni yn barnu rhywun heb roi gwrandawiad iddo yn gyntaf, a chael gwybod beth y mae'n ei wneud?” Atebasant ef, “A wyt tithau hefyd yn dod o Galilea? Chwilia'r Ysgrythurau, a chei weld nad yw proffwyd byth yn codi o Galilea.” Ac aethant adref bob un.

Ioan 7:1-53 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea. Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae. Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon. Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn? Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid? Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod? Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.) Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno. Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea. A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.