Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 7:1-24

Ioan 7:1-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw o Jwdea yn fwriadol am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll (un arall o wyliau’r Iddewon) yn agos, dyma frodyr Iesu’n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i’r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud! Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o’r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau yma, dangos dy hun i bawb!” (Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.) “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. Dydy’r byd ddim yn gallu’ch casáu chi, ond mae’n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae’n ei wneud yn ddrwg. Ewch chi i’r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i’r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea. Ond ar ôl i’w frodyr fynd i’r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno’n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw. Roedd llawer o siarad amdano’n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd hi dros hanner ffordd drwy’r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut mae’r dyn yma’n gwybod cymaint heb fod wedi cael ei hyfforddi?” Atebodd Iesu, “Dw i ddim yn dysgu ohono i’n hun. Mae’n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. Bydd pwy bynnag sy’n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i’n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. Mae’r rhai sy’n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw’u hunain, ond mae’r un sy’n gweithio i anrhydeddu’r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. Oni wnaeth Moses roi’r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi’n ufudd i’r Gyfraith. Pam dych chi’n ceisio fy lladd i?” “Mae cythraul yn dy wneud di’n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy’n ceisio dy ladd di?” Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau’r genedl), a dych chi’n enwaedu bachgen ar y Saboth. Nawr, os ydy’n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”

Ioan 7:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl hyn bu Iesu'n teithio o amgylch yng Ngalilea. Ni fynnai fynd o amgylch yn Jwdea, oherwydd yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano i'w ladd. Yr oedd gŵyl yr Iddewon, gŵyl y Pebyll, yn ymyl, ac felly dywedodd ei frodyr wrtho, “Dylit adael y lle hwn a mynd i Jwdea, er mwyn i'th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd yr wyt ti'n eu gwneud. Oherwydd nid yw neb sy'n ceisio bod yn yr amlwg yn gwneud dim yn y dirgel. Os wyt yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i'r byd.” Nid oedd hyd yn oed ei frodyr yn credu ynddo. Felly dyma Iesu'n dweud wrthynt, “Nid yw'r amser yn aeddfed i mi eto, ond i chwi y mae unrhyw amser yn addas. Ni all y byd eich casáu chwi, ond y mae'n fy nghasáu i am fy mod i'n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl. Nid wyf fi'n mynd i fyny i'r ŵyl hon, oherwydd nid yw fy amser i wedi dod i'w gyflawniad eto.” Wedi dweud hyn fe arhosodd ef yng Ngalilea. Ond pan oedd ei frodyr wedi mynd i fyny i'r ŵyl, fe aeth yntau hefyd i fyny, nid yn agored ond yn ddirgel, fel petai. Yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano yn yr ŵyl ac yn dweud, “Ble mae ef?” Yr oedd llawer o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd: rhai yn dweud, “Dyn da yw ef”, ond “Na,” meddai eraill, “twyllo'r bobl y mae.” Er hynny, nid oedd neb yn siarad yn agored amdano, rhag ofn yr Iddewon. Pan oedd yr ŵyl eisoes ar ei hanner, aeth Iesu i fyny i'r deml a dechrau dysgu. Yr oedd yr Iddewon yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut y mae gan hwn y fath ddysg, ac yntau heb gael hyfforddiant?” Atebodd Iesu hwy, “Nid eiddof fi yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu, ond eiddo'r hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n ewyllysio gwneud ei ewyllys ef, caiff wybod a yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, ai ynteu siarad ohonof fy hunan yr wyf. Y mae'r sawl sy'n siarad ohono'i hun yn ceisio anrhydedd iddo'i hun; ond y mae'r sawl sy'n ceisio anrhydedd i'r hwn a'i hanfonodd yn ddiffuant ac yn ddiddichell. Onid yw Moses wedi rhoi'r Gyfraith i chwi? Ac eto nid oes neb ohonoch yn cadw'r Gyfraith. Pam yr ydych yn ceisio fy lladd i?” Atebodd y dyrfa, “Y mae cythraul ynot. Pwy sy'n ceisio dy ladd di?” Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth? Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”

Ioan 7:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea. Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae. Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon. Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd