Ioan 6:66-68
Ioan 6:66-68 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ar ôl hyn dyma nifer o’i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio’i ddilyn. “Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl. “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.
Ioan 6:66-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef. Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?” Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti
Ioan 6:66-68 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.