Ioan 6:60-71
Ioan 6:60-71 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddynt ei glywed, meddai llawer o'i ddisgyblion, “Geiriau caled yw'r rhain. Pwy all wrando arnynt?” Gwyddai Iesu ynddo'i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am ei eiriau, ac meddai wrthynt, “A yw hyn yn peri tramgwydd i chwi? Beth ynteu os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn i'r lle'r oedd o'r blaen? Yr Ysbryd sy'n rhoi bywyd; nid yw'r cnawd yn tycio dim. Y mae'r geiriau yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych yn ysbryd ac yn fywyd. Ac eto y mae rhai ohonoch sydd heb gredu.” Yr oedd Iesu, yn wir, yn gwybod o'r cychwyn pwy oedd y rhai oedd heb gredu, a phwy oedd yr un a'i bradychai. “Dyna pam,” meddai, “y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny.” O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef. Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?” Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.” Atebodd Iesu hwy, “Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?” Yr oedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd yr oedd hwn, ac yntau'n un o'r Deuddeg, yn mynd i'w fradychu ef.
Ioan 6:60-71 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond ymateb llawer o’i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae’n dweud pethau rhy galed. Pwy sy’n mynd i wrando arno?” Roedd Iesu’n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi’n mynd i droi cefn arna i? Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i lle roeddwn i o’r blaen? Ysbryd Duw sy’n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi yn dod o’r Ysbryd ac yn rhoi bywyd. Ac eto mae rhai ohonoch chi’n gwrthod credu.” (Roedd Iesu’n gwybod o’r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i’w fradychu e.) Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi’r gallu iddyn nhw ddod.” Ar ôl hyn dyma nifer o’i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio’i ddilyn. “Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl. “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni’n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” Ond yna dyma Iesu’n dweud, “Onid fi ddewisodd chi’r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi’n ddiafol!” (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd e’n ei olygu, yr un oedd yn mynd i’w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o’r deuddeg disgybl.)
Ioan 6:60-71 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno? Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen? Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad. O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol? Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.