Ioan 6:53-60
Ioan 6:53-60 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy’n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Ydy, mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a’m gwaed i yn ddiod go iawn. Mae’r rhai sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros mewn perthynas agos gyda mi, a dw i’n aros mewn perthynas agos gyda nhw. Yn union fel mae’r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i’n byw o achos y Tad, bydd yr un sy’n bwydo arna i yn byw o’m hachos i. Mae’n wahanol i’r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o’r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy’n ei fwyta yn byw am byth.” Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. Ond ymateb llawer o’i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae’n dweud pethau rhy galed. Pwy sy’n mynd i wrando arno?”
Ioan 6:53-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum. Wedi iddynt ei glywed, meddai llawer o'i ddisgyblion, “Geiriau caled yw'r rhain. Pwy all wrando arnynt?”
Ioan 6:53-60 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum. Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno?