Ioan 6:5-13
Ioan 6:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?” Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud. Atebodd Philip ef, “Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt.” A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, “Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai. A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.” Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd.
Ioan 6:5-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni’n mynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu’n gwybod beth roedd e’n mynd i’w wneud.) Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” Yna dyma un o’r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” Dwedodd Iesu, “Gwnewch i’r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” Felly dyma nhw’n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda’r tameidiau o’r pum torth haidd oedd heb eu bwyta.
Ioan 6:5-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? (A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent.