Ioan 6:48-51
Ioan 6:48-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta’r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. Ond mae’r bara yma’n dod i lawr o’r nefoedd i’w fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. A fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd, wedi dod i lawr o’r nefoedd. Bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r bara yma yn byw am byth. Y bara fydda i’n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i’r byd gael byw.”
Ioan 6:48-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Myfi yw bara'r bywyd. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.”
Ioan 6:48-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi yw bara’r bywyd. Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.