Ioan 6:35-40
Ioan 6:35-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n datgan, “Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi ddim yn credu. Bydd pawb mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy’n dod ata i. Dw i ddim wedi dod i lawr o’r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae’r hwn anfonodd fi eisiau. A dyma beth mae’r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i’n colli neb o’r rhai mae wedi’u rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy’n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i’n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
Ioan 6:35-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi. Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu. Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.”
Ioan 6:35-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.