Ioan 6:32-35
Ioan 6:32-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o’r nefoedd i chi. Ond mae fy Nhad yn rhoi bara o’r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. Bara Duw ydy’r un sy’n dod i lawr o’r nefoedd ac yn rhoi bywyd i’r byd.” “Syr,” medden nhw, “rho’r bara hwnnw i ni o hyn ymlaen.” Yna dyma Iesu’n datgan, “Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu.
Ioan 6:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef. Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd.” Dywedasant wrtho ef, “Syr, rho'r bara hwn inni bob amser.” Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi.
Ioan 6:32-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.