Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 6:25-51

Ioan 6:25-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.” Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?” Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.” “Os felly,” meddent wrtho, “pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud? Cafodd ein hynafiaid fanna i'w fwyta yn yr anialwch, fel y mae'n ysgrifenedig, ‘Rhoddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.’ ” Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef. Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd.” Dywedasant wrtho ef, “Syr, rho'r bara hwn inni bob amser.” Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi. Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu. Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.” Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, “Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef.” “Onid hwn,” meddent, “yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, ‘Yr wyf wedi disgyn o'r nef’?” Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd. Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi. Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol. Myfi yw bara'r bywyd. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.”

Ioan 6:25-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi’r llyn, dyma nhw’n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi’n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta’r torthau a llenwi’ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy’n difetha, ond i gael y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy’n rhoi’r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.” Felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?” Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi’i anfon.” Felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni’n credu ynot ti wedyn. Beth wnei di? Cafodd ein hynafiaid y manna i’w fwyta yn yr anialwch. Mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o’r nefoedd iddyn nhw i’w fwyta.’ ” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o’r nefoedd i chi. Ond mae fy Nhad yn rhoi bara o’r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. Bara Duw ydy’r un sy’n dod i lawr o’r nefoedd ac yn rhoi bywyd i’r byd.” “Syr,” medden nhw, “rho’r bara hwnnw i ni o hyn ymlaen.” Yna dyma Iesu’n datgan, “Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi ddim yn credu. Bydd pawb mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy’n dod ata i. Dw i ddim wedi dod i lawr o’r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae’r hwn anfonodd fi eisiau. A dyma beth mae’r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i’n colli neb o’r rhai mae wedi’u rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy’n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i’n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.” Yna dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy’r bara ddaeth i lawr o’r nefoedd.” “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni’n nabod ei dad a’i fam. Sut mae’n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o’r nefoedd’?” “Stopiwch gwyno amdana i ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu. “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Mae’n dweud yn ysgrifau’r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy’n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. Ond does neb wedi gweld y Tad ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw – neb arall. Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy’n credu. Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta’r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. Ond mae’r bara yma’n dod i lawr o’r nefoedd i’w fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. A fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd, wedi dod i lawr o’r nefoedd. Bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r bara yma yn byw am byth. Y bara fydda i’n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i’r byd gael byw.”

Ioan 6:25-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad. Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf. Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. Myfi yw bara’r bywyd. Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.