Ioan 6:23-27
Ioan 6:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu. Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.”
Ioan 6:23-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o’r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i’r Arglwydd roi diolch. Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na’i ddisgyblion chwaith, dyma nhw’n mynd i mewn i’r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano. Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi’r llyn, dyma nhw’n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi’n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta’r torthau a llenwi’ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy’n difetha, ond i gael y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy’n rhoi’r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.”
Ioan 6:23-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
(Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:) Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu. Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.