Ioan 6:15-21
Ioan 6:15-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Pan oedd hi’n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, a mynd i gwch i groesi’r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi’n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. Roedd y tonnau’n dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna roedden nhw’n fodlon ei dderbyn i’r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw’n anelu ati.
Ioan 6:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun. Pan aeth hi'n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr ac i mewn i gwch, a dechrau croesi'r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll, ac nid oedd Iesu wedi dod atynt hyd yn hyn. Yr oedd gwynt cryf yn chwythu a'r môr yn arw. Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y môr ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt. Ond meddai ef wrthynt, “Myfi yw; peidiwch ag ofni.” Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati.
Ioan 6:15-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.