Ioan 6:10-11
Ioan 6:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai.
Ioan 6:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Iesu, “Gwnewch i’r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau.
Ioan 6:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant.