Ioan 5:30-47
Ioan 5:30-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dw i’n gwneud dim ar fy liwt fy hun; dw i’n barnu yn union fel dw i’n clywed. A dw i’n dyfarnu’n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau. “Os mai dim ond fi sy’n tystio ar fy rhan fy hun, dydy’r dystiolaeth ddim yn ddilys. Ond mae yna un arall sy’n rhoi tystiolaeth o’m plaid i, a dw i’n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys. “Dych chi wedi anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr ac mae e wedi tystio am y gwir. Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i’n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub. Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a buoch chi’n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod. “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i’n ei wneud (y gwaith mae’r Tad wedi’i roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i. Ac mae’r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld! Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e’n ddweud, achos dych chi’n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi’i anfon. Dych chi’n astudio’r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae’r ysgrifau hynny, ond dych chi’n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna! “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl. Dw i’n eich nabod chi’n iawn. Dw i’n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn. Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi’n fy ngwrthod i. Os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e! Sut allwch chi gredu? Dych chi’n mwynhau canmol eich gilydd, tra’n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy’n dod oddi wrth yr unig Dduw. “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy’r un sy’n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno. Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi’n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd e! Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi’n gallu credu beth dw i’n ddweud?”
Ioan 5:30-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Nid wyf fi'n gallu gwneud dim ohonof fy hun. Fel yr wyf yn clywed, felly yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn i yn gyfiawn, oherwydd nid fy ewyllys i fy hun yr wyf yn ei cheisio, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. “Os wyf fi'n tystiolaethu amdanaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth yn wir. Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf. Yr ydych chwi wedi anfon at Ioan, ac y mae gennych dystiolaeth ganddo ef i'r gwirionedd. Nid dynol yw'r dystiolaeth amdanaf, ond rwy'n dweud hyn er mwyn i chwi gael eich achub: Cannwyll oedd Ioan, yn llosgi ac yn llewyrchu, a buoch chwi'n fodlon gorfoleddu dros dro yn ei oleuni ef. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy na'r eiddo Ioan, oherwydd y gweithredoedd a roes y Tad i mi i'w cyflawni, yr union weithredoedd yr wyf yn eu gwneud, y rhain sy'n tystiolaethu amdanaf fi mai'r Tad sydd wedi fy anfon. A'r Tad a'm hanfonodd i, y mae ef ei hun wedi tystiolaethu amdanaf fi. Nid ydych chwi erioed wedi clywed ei lais na gweld ei wedd, ac nid oes gennych mo'i air ef yn aros ynoch, oherwydd nid ydych chwi'n credu'r hwn a anfonodd ef. Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain; eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd. “Y clod yr wyf fi'n ei dderbyn, nid clod dynol mohono. Ond mi wn i amdanoch chwi, nad oes gennych ddim cariad tuag at Dduw ynoch eich hunain. Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw. Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd a heb geisio'r clod sydd gan yr unig Dduw i'w roi? Peidiwch â meddwl mai myfi fydd yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn gerbron y Tad. Moses yw'r un sydd yn eich cyhuddo, hwnnw yr ydych chwi wedi rhoi eich gobaith arno. Pe baech yn credu Moses byddech yn fy nghredu i, oherwydd amdanaf fi yr ysgrifennodd ef. Ond os nad ydych yn credu'r hyn a ysgrifennodd ef, sut yr ydych i gredu'r hyn yr wyf fi'n ei ddweud?”
Ioan 5:30-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i. Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir. Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi. Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd. Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi. Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i. A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef. Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo. Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt-hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?