Ioan 5:22-24
Ioan 5:22-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
A dydy’r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi’r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab, er mwyn i bawb anrhydeddu’r Mab yn union fel y maen nhw’n anrhydeddu’r Tad. Pwy bynnag sy’n gwrthod anrhydeddu’r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw’r Tad anfonodd y Mab i’r byd. “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy’n gwrando ar beth dw i’n ddweud ac yn credu’r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
Ioan 5:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw'r Tad chwaith yn barnu neb, ond y mae wedi rhoi pob hawl i farnu i'r Mab, er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rônt i'r Tad. O beidio â pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio â pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
Ioan 5:22-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab: Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.