Ioan 5:21-30
Ioan 5:21-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae’n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae’r Tad yn codi’r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw. A dydy’r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi’r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab, er mwyn i bawb anrhydeddu’r Mab yn union fel y maen nhw’n anrhydeddu’r Tad. Pwy bynnag sy’n gwrthod anrhydeddu’r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw’r Tad anfonodd y Mab i’r byd. “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy’n gwrando ar beth dw i’n ddweud ac yn credu’r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw. Credwch chi fi, mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd y rhai sy’n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy’n gwrando ar beth mae’n ei ddweud yn byw. Fel mae gan y Tad fywyd ynddo’i hun i’w roi i eraill, mae wedi caniatáu i’r Mab fod â bywyd ynddo’i hun i’w roi i eraill. Ac mae hefyd wedi rhoi’r awdurdod iddo i farnu, am mai fe ydy Mab y Dyn. “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud da yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drwg yn codi i gael eu barnu. Ond dw i’n gwneud dim ar fy liwt fy hun; dw i’n barnu yn union fel dw i’n clywed. A dw i’n dyfarnu’n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
Ioan 5:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fel y mae'r Tad yn codi'r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae'r Mab yntau yn rhoi bywyd i'r sawl a fyn. Nid yw'r Tad chwaith yn barnu neb, ond y mae wedi rhoi pob hawl i farnu i'r Mab, er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rônt i'r Tad. O beidio â pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio â pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a'r rhai sy'n clywed yn cael bywyd. Oherwydd fel y mae gan y Tad fywyd ynddo ef ei hun, felly hefyd rhoddodd i'r Mab gael bywyd ynddo ef ei hun. Rhoddodd iddo hefyd awdurdod i weinyddu barn, am mai Mab y Dyn yw ef. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a'r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu. “Nid wyf fi'n gallu gwneud dim ohonof fy hun. Fel yr wyf yn clywed, felly yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn i yn gyfiawn, oherwydd nid fy ewyllys i fy hun yr wyf yn ei cheisio, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.
Ioan 5:21-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno. Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab: Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn. Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.