Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 4:4-42

Ioan 4:4-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria. Daeth i bentref o’r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi’i roi i’w fab Joseff ers talwm. A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino’n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd. Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?” (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i’r dre i brynu bwyd.) “Iddew wyt ti,” meddai’r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i’n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio’r un llestri â’r Samariaid.) Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i’w roi i ti, a phwy ydw i sy’n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai’n gofyn wedyn, a byddwn i’n rhoi dŵr bywiol i ti.” “Syr,” meddai’r wraig, “Ble mae’r ‘dŵr bywiol’ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae’r pydew yn ddwfn. Wyt ti’n meddwl dy fod di’n fwy na’n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e’n yfed y dŵr yma, a’i feibion hefyd a’i anifeiliaid.” Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.” Meddai’r wraig wrtho, “Syr, rho beth o’r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.” Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.” “Does gen i ddim gŵr,” meddai’r wraig. “Ti’n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i’r dyn sy’n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.” “Dw i’n gweld dy fod ti’n broffwyd syr,” meddai’r wraig. “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni’r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi’r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy’r lle iawn i addoli.” Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli’r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. Dych chi’r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi’n ei addoli go iawn; dŷn ni’r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni’n ei addoli, am mai drwy’r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. Ond mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy’n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy’n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.” Meddai’r wraig, “Dw i’n gwybod fod y Meseia (sy’n golygu ‘Yr un wedi’i eneinio’n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.” “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy’n siarad â ti.” Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw’n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti’n siarad gyda hi?” Dyma’r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i’r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?” Felly dyma’r bobl yn mynd allan o’r pentref i gyfarfod Iesu. Yn y cyfamser, roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio’i gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.” Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i’w fwyta dych chi’n gwybod dim amdano.” “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo’i fwyta?” meddai’r disgyblion wrth ei gilydd. “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi. Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i’n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae’r cynhaeaf yn barod!’ Mae’r gweithwyr sy’n medi’r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw’n casglu’r cnwd, sef y bobl sy’n cael bywyd tragwyddol. Mae’r rhai sy’n hau a’r rhai sy’n medi yn dathlu gyda’i gilydd! Mae’r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’ Dw i wedi’ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau’n casglu’r ffrwyth.” Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.” Felly pan ddaethon nhw ato, dyma nhw’n ei annog i aros gyda nhw, ac arhosodd yno am ddau ddiwrnod. Daeth llawer iawn mwy o bobl i gredu ynddo ar ôl clywed beth oedd ganddo i’w ddweud. A dyma nhw’n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni ddim yn credu o achos beth ddwedaist ti bellach; dŷn ni wedi’i glywed ein hunain, ac yn reit siŵr mai’r dyn yma ydy Achubwr y byd.”

Ioan 4:4-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria. Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd. Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma? A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?” Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.” Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.” “Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.” Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?” Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?” Daethant allan o'r dref a chychwyn tuag ato ef. Yn y cyfamser yr oedd y disgyblion yn ei gymell, gan ddweud, “Rabbi, cymer fwyd.” Dywedodd ef wrthynt, “Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.” Ar hynny, dechreuodd y disgyblion ofyn i'w gilydd, “A oes rhywun, tybed, wedi dod â bwyd iddo?” Meddai Iesu wrthynt, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi. Oni fyddwch chwi'n dweud, ‘Pedwar mis eto, ac yna daw'r cynhaeaf’? Ond dyma fi'n dweud wrthych, codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i'w cynaeafu. Eisoes y mae'r medelwr yn derbyn ei dâl ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol, ac felly bydd yr heuwr a'r medelwr yn cydlawenhau. Yn hyn o beth y mae'r dywediad yn wir: ‘Y mae un yn hau ac un arall yn medi.’ Anfonais chwi i fedi cynhaeaf nad ydych wedi llafurio amdano. Eraill sydd wedi llafurio, a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur.” Daeth llawer o'r Samariaid o'r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig a dystiodd: “Dywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud.” Felly pan ddaeth y Samariaid hyn ato ef, gofynasant iddo aros gyda hwy; ac fe arhosodd yno am ddau ddiwrnod. A daeth llawer mwy i gredu ynddo trwy ei air ei hun. Meddent wrth y wraig, “Nid trwy'r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd.”

Ioan 4:4-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria. Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff: Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw. Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist? Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef. Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt. A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.