Ioan 4:39-42
Ioan 4:39-42 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.” Felly pan ddaethon nhw ato, dyma nhw’n ei annog i aros gyda nhw, ac arhosodd yno am ddau ddiwrnod. Daeth llawer iawn mwy o bobl i gredu ynddo ar ôl clywed beth oedd ganddo i’w ddweud. A dyma nhw’n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni ddim yn credu o achos beth ddwedaist ti bellach; dŷn ni wedi’i glywed ein hunain, ac yn reit siŵr mai’r dyn yma ydy Achubwr y byd.”
Ioan 4:39-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth llawer o'r Samariaid o'r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig a dystiodd: “Dywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud.” Felly pan ddaeth y Samariaid hyn ato ef, gofynasant iddo aros gyda hwy; ac fe arhosodd yno am ddau ddiwrnod. A daeth llawer mwy i gredu ynddo trwy ei air ei hun. Meddent wrth y wraig, “Nid trwy'r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd.”
Ioan 4:39-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.