Ioan 4:32-34
Ioan 4:32-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd ef wrthynt, “Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.” Ar hynny, dechreuodd y disgyblion ofyn i'w gilydd, “A oes rhywun, tybed, wedi dod â bwyd iddo?” Meddai Iesu wrthynt, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi.
Ioan 4:32-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i’w fwyta dych chi’n gwybod dim amdano.” “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo’i fwyta?” meddai’r disgyblion wrth ei gilydd. “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi.
Ioan 4:32-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef.