Ioan 4:25-30
Ioan 4:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.” Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?” Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?” Daethant allan o'r dref a chychwyn tuag ato ef.
Ioan 4:25-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddai’r wraig, “Dw i’n gwybod fod y Meseia (sy’n golygu ‘Yr un wedi’i eneinio’n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.” “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy’n siarad â ti.” Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw’n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti’n siarad gyda hi?” Dyma’r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i’r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?” Felly dyma’r bobl yn mynd allan o’r pentref i gyfarfod Iesu.
Ioan 4:25-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw. Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist? Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.