Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 4:13-24

Ioan 4:13-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.” Meddai’r wraig wrtho, “Syr, rho beth o’r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.” Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.” “Does gen i ddim gŵr,” meddai’r wraig. “Ti’n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i’r dyn sy’n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.” “Dw i’n gweld dy fod ti’n broffwyd syr,” meddai’r wraig. “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni’r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi’r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy’r lle iawn i addoli.” Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli’r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. Dych chi’r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi’n ei addoli go iawn; dŷn ni’r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni’n ei addoli, am mai drwy’r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. Ond mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy’n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy’n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.”

Ioan 4:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.” Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.” “Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”