Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 4:1-29

Ioan 4:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr (er mai’r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu). Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria. Daeth i bentref o’r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi’i roi i’w fab Joseff ers talwm. A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino’n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd. Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?” (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i’r dre i brynu bwyd.) “Iddew wyt ti,” meddai’r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i’n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio’r un llestri â’r Samariaid.) Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i’w roi i ti, a phwy ydw i sy’n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai’n gofyn wedyn, a byddwn i’n rhoi dŵr bywiol i ti.” “Syr,” meddai’r wraig, “Ble mae’r ‘dŵr bywiol’ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae’r pydew yn ddwfn. Wyt ti’n meddwl dy fod di’n fwy na’n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e’n yfed y dŵr yma, a’i feibion hefyd a’i anifeiliaid.” Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.” Meddai’r wraig wrtho, “Syr, rho beth o’r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.” Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.” “Does gen i ddim gŵr,” meddai’r wraig. “Ti’n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i’r dyn sy’n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.” “Dw i’n gweld dy fod ti’n broffwyd syr,” meddai’r wraig. “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni’r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi’r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy’r lle iawn i addoli.” Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli’r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. Dych chi’r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi’n ei addoli go iawn; dŷn ni’r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni’n ei addoli, am mai drwy’r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. Ond mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy’n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy’n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.” Meddai’r wraig, “Dw i’n gwybod fod y Meseia (sy’n golygu ‘Yr un wedi’i eneinio’n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.” “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy’n siarad â ti.” Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw’n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti’n siarad gyda hi?” Dyma’r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i’r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”

Ioan 4:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan ddeallodd Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod ef yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan (er nad Iesu ei hun, ond ei ddisgyblion, fyddai'n bedyddio), gadawodd Jwdea ac aeth yn ôl i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria. Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd. Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma? A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?” Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.” Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.” “Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.” Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?” Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?”

Ioan 4:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan, (Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef,) Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria. Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff: Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw. Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist?