Ioan 3:5-8
Ioan 3:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd, cnawd yw, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae'n rhaid eich geni chwi o'r newydd.’ Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd.”
Ioan 3:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd. Mae’r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy’n rhoi genedigaeth ysbrydol. Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’ Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti’n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae’n dod nac i ble mae’n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi’u geni drwy’r Ysbryd.”
Ioan 3:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.