Ioan 3:3-5
Ioan 3:3-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma Iesu’n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.” “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae’n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw’n sicr ddim mynd i mewn i’r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!” Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd.
Ioan 3:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw.
Ioan 3:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.