Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 3:22-36

Ioan 3:22-36 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Ar ôl hyn gadawodd Iesu a’i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu’n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl. Bryd hynny roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio. (Roedd hyn cyn i Ioan gael ei garcharu.) Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol. Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti’n gwybod y dyn rwyt ti wedi bod yn sôn amdano – yr un oedd gyda ti yr ochr draw i afon Iorddonen? Wel, mae e’n bedyddio hefyd, ac mae pawb yn mynd ato fe.” Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi iddo mae rhywun yn gallu wneud. Dych chi’n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy’r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o’i flaen e.’ Mae’r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae’r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae’n digwydd. A dyna pam dw i’n wirioneddol hapus. Rhaid iddo fe ddod i’r amlwg; rhaid i mi fynd o’r golwg.” Daeth Iesu o’r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o’r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth. Mae’n dweud am beth mae wedi’i weld a’i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu! Ond mae’r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir. Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw’n ei ddweud. Mae Duw’n rhoi’r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl. Mae Duw y Tad yn caru’r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e. Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy’n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o’r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.

Ioan 3:22-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl hyn aeth Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea, a bu'n aros yno gyda hwy ac yn bedyddio. Yr oedd Ioan yntau yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, am fod digonedd o ddŵr yno; ac yr oedd pobl yn dod yno ac yn cael eu bedyddio. Nid oedd Ioan eto wedi ei garcharu. Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew ynghylch defod glanhad. Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.” Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef. Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’ Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder. Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.” Y mae'r hwn sy'n dod oddi uchod goruwch pawb; y mae'r hwn sydd o'r ddaear yn ddaearol ei anian ac yn ddaearol ei iaith. Y mae'r sawl sy'n dod o'r nef goruwch pawb; y mae'n tystiolaethu am yr hyn a welodd ac a glywodd, ond nid yw neb yn derbyn ei dystiolaeth. Y mae'r sawl sydd yn derbyn ei dystiolaeth yn rhoi ei sêl ar fod Duw yn eirwir. Oherwydd y mae'r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw; nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi'r Ysbryd. Y mae'r Tad yn caru'r Mab, ac y mae wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef. Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.

Ioan 3:22-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wedi’r pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd. Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a’u bedyddiwyd: Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar. Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon, ynghylch puredigaeth. A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef. Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef. Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw’r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef. Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw’r priodfab: ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd. Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau. Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw. Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd