Ioan 3:18-20
Ioan 3:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau. Pam? Am eu bod nhw’n gwneud pethau drwg o hyd. Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld.
Ioan 3:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu.
Ioan 3:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.