Ioan 3:17-21
Ioan 3:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd. Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau. Pam? Am eu bod nhw’n gwneud pethau drwg o hyd. Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld. Ond mae’r rhai sy’n ufudd i’r gwir yn dod allan i’r golau, ac mae’n amlwg mai Duw sy’n rhoi’r nerth iddyn nhw wneud beth sy’n iawn.”
Ioan 3:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef. Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu. Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.
Ioan 3:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.