Ioan 3:1-8
Ioan 3:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o’r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o’r enw Nicodemus oedd y dyn. Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni’n gwybod dy fod di’n athro wedi’i anfon gan Dduw i’n dysgu ni. Mae’r gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.” Dyma Iesu’n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.” “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae’n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw’n sicr ddim mynd i mewn i’r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!” Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd. Mae’r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy’n rhoi genedigaeth ysbrydol. Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’ Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti’n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae’n dod nac i ble mae’n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi’u geni drwy’r Ysbryd.”
Ioan 3:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o'r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti'n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd, cnawd yw, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae'n rhaid eich geni chwi o'r newydd.’ Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd.”
Ioan 3:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon: Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.