Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 3:1-21

Ioan 3:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o’r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o’r enw Nicodemus oedd y dyn. Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni’n gwybod dy fod di’n athro wedi’i anfon gan Dduw i’n dysgu ni. Mae’r gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.” Dyma Iesu’n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.” “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae’n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw’n sicr ddim mynd i mewn i’r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!” Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd. Mae’r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy’n rhoi genedigaeth ysbrydol. Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’ Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti’n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae’n dod nac i ble mae’n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi’u geni drwy’r Ysbryd.” “Sut mae hynny’n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus. “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a ti ddim yn deall! Cred di fi, dŷn ni’n siarad am beth dŷn ni’n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi’i weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni. Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy’n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi’n credu os gwna i siarad am bethau’r byd nefol? Does neb wedi bod i’r nefoedd, a fi, Mab y Dyn ydy’r unig un sydd wedi dod o’r nefoedd. Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol. “Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd. Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau. Pam? Am eu bod nhw’n gwneud pethau drwg o hyd. Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld. Ond mae’r rhai sy’n ufudd i’r gwir yn dod allan i’r golau, ac mae’n amlwg mai Duw sy’n rhoi’r nerth iddyn nhw wneud beth sy’n iawn.”

Ioan 3:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o'r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti'n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd, cnawd yw, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae'n rhaid eich geni chwi o'r newydd.’ Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd.” Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?” Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth. Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau'r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau'r nef? Nid oes neb wedi esgyn i'r nef ond yr un a ddisgynnodd o'r nef, Mab y Dyn. Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae'n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy'n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef.” Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef. Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu. Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.

Ioan 3:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon: Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd. Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef. Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.