Ioan 21:15-19
Ioan 21:15-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu’n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.” Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?” Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.” Yna gofynnodd Iesu iddo’r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto’r drydedd waith, “Wyt ti’n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti’n gwybod pob peth; rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid. Cred di fi, pan oeddet ti’n ifanc roeddet yn gwisgo ac yn mynd i ble bynnag oeddet ti eisiau; ond pan fyddi’n hen byddi’n estyn allan dy freichiau, a bydd rhywun arall yn dy rwymo di ac yn dy arwain i rywle ti ddim eisiau mynd.” (Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut fyddai Pedr yn marw i anrhydeddu Duw.) Yna dyma Iesu’n dweud wrtho, “Dilyn fi.”
Ioan 21:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.” Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” “Ydwyf, Arglwydd,” meddai Pedr wrtho, “fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Bugeilia fy nefaid.” Gofynnodd iddo y drydedd waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, “A wyt ti'n fy ngharu i?” Ac meddai wrtho, “Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di.” Dywedodd Iesu wrtho, “Portha fy nefaid. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, pan oeddit yn ifanc, yr oeddit yn dy wregysu dy hunan, ac yn mynd lle bynnag y mynnit. Ond pan fyddi'n hen, byddi'n estyn dy ddwylo i rywun arall dy wregysu, a mynd â thi lle nad wyt yn mynnu.” Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, “Canlyn fi.”
Ioan 21:15-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.