Ioan 21:1-6
Ioan 21:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny. Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd. A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, “Rwy'n mynd i bysgota.” Atebasant ef, “Rydym ninnau'n dod gyda thi.” Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno. Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd. Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, “Does gennych ddim pysgod, fechgyn?” “Nac oes,” atebasant ef. Meddai yntau wrthynt, “Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa.” Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi.
Ioan 21:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n ymddangos eto i’w ddisgyblion wrth Lyn Tiberias. Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda’i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall. “Dw i’n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw’n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly aethon nhw allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy’r nos. Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu’n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno. Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?” “Nac oes,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde’r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw’n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw’n methu tynnu’r rhwyd yn ôl i’r cwch.
Ioan 21:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod.