Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 21:1-14

Ioan 21:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny. Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd. A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, “Rwy'n mynd i bysgota.” Atebasant ef, “Rydym ninnau'n dod gyda thi.” Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno. Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd. Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, “Does gennych ddim pysgod, fechgyn?” “Nac oes,” atebasant ef. Meddai yntau wrthynt, “Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa.” Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi. A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd yw.” Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r môr. Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr. Wedi iddynt lanio, gwelsant dân golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara. Meddai Iesu wrthynt, “Dewch â rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal.” Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd. “Dewch,” meddai Iesu wrthynt, “cymerwch frecwast.” Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd. Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.

Ioan 21:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Iesu’n ymddangos eto i’w ddisgyblion wrth Lyn Tiberias. Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda’i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall. “Dw i’n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw’n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly aethon nhw allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy’r nos. Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu’n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno. Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?” “Nac oes,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde’r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw’n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw’n methu tynnu’r rhwyd yn ôl i’r cwch. Dyma’r disgybl roedd Iesu’n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i’r dŵr. Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo’r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o’r lan.) Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara. “Dewch â rhai o’r pysgod dych chi newydd eu dal,” meddai Iesu wrthyn nhw. Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i’r cwch a llusgo’r rhwyd i’r lan. Roedd hi’n llawn o bysgod mawr, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo. “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o’r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw’n gwybod yn iawn mai’r Meistr oedd e. Yna dyma Iesu’n cymryd y bara a’i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda’r pysgod. Dyma’r trydydd tro i Iesu adael i’w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw.

Ioan 21:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.