Ioan 20:1-2
Ioan 20:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau’n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i symud. Felly dyma hi’n rhedeg at Simon Pedr a’r disgybl arall (yr un oedd Iesu’n ei garu), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi’i roi e!”
Ioan 20:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd. Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a'r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu'n ei garu. Ac meddai wrthynt, “Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd.”
Ioan 20:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.