Ioan 2:9-10
Ioan 2:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Profodd llywydd y wledd y dŵr, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r dŵr yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab ac meddai wrtho, “Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr.”
Ioan 2:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a dyma llywydd y wledd yn blasu’r dŵr oedd wedi’i droi’n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â’r gwin gorau allan gyntaf a’r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i’r gwesteion gael gormod i’w yfed. Pam wyt ti wedi cadw’r gorau i’r diwedd?”
Ioan 2:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.