Ioan 2:7-11
Ioan 2:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Iesu wrthynt, “Llanwch y llestri â dŵr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl. Yna meddai wrthynt, “Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd.” A gwnaethant felly. Profodd llywydd y wledd y dŵr, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r dŵr yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab ac meddai wrtho, “Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr.” Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
Ioan 2:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhw’n eu llenwi i’r top. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw’n gwneud hynny, a dyma llywydd y wledd yn blasu’r dŵr oedd wedi’i droi’n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â’r gwin gorau allan gyntaf a’r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i’r gwesteion gael gormod i’w yfed. Pam wyt ti wedi cadw’r gorau i’r diwedd?” Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma’i ddisgyblion yn credu ynddo.
Ioan 2:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.