Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 2:1-25

Ioan 2:1-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno ac roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i’r briodas hefyd. Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu’n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.” Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.” Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.” Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy’n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw’n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr. Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhw’n eu llenwi i’r top. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw’n gwneud hynny, a dyma llywydd y wledd yn blasu’r dŵr oedd wedi’i droi’n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â’r gwin gorau allan gyntaf a’r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i’r gwesteion gael gormod i’w yfed. Pam wyt ti wedi cadw’r gorau i’r diwedd?” Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma’i ddisgyblion yn credu ynddo. Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau. Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon), a dyma Iesu’n mynd i Jerwsalem. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a cholomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a’u gyrru nhw i gyd allan o’r deml gyda’r defaid a’r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!” Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.” Ond dyma’r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?” Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.” Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae’r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti’n mynd i’w hadeiladu mewn tri diwrnod?” (Ond y deml oedd Iesu’n sôn amdani oedd ei gorff. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw’n credu’r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.) Tra oedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi’i weld e’n gwneud arwyddion gwyrthiol. Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e’n deall pobl i’r dim. Doedd dim angen i neb esbonio iddo, am ei fod e’n gwybod yn iawn sut mae’r meddwl dynol yn gweithio.

Ioan 2:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno. Gwahoddwyd Iesu hefyd, a'i ddisgyblion, i'r briodas. Pallodd y gwin, ac meddai mam Iesu wrtho ef, “Nid oes ganddynt win.” Dywedodd Iesu wrthi hi, “Wraig, beth sydd a fynni di â mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto.” Dywedodd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych.” Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni. Dywedodd Iesu wrthynt, “Llanwch y llestri â dŵr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl. Yna meddai wrthynt, “Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd.” A gwnaethant felly. Profodd llywydd y wledd y dŵr, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r dŵr yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab ac meddai wrtho, “Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr.” Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo. Wedi hyn aeth ef a'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion i lawr i Gapernaum, ac aros yno am ychydig ddyddiau. Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem. A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.” Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.” Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?” Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.” Dywedodd yr Iddewon, “Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?” Ond sôn yr oedd ef am deml ei gorff. Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru. Tra oedd yn Jerwsalem yn dathlu gŵyl y Pasg, credodd llawer yn ei enw ef wrth weld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud. Ond nid oedd Iesu yn ei ymddiried ei hun iddynt, oherwydd yr oedd yn adnabod y natur ddynol. Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglŷn â'r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.

Ioan 2:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri. Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo. Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau. A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i. Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu. Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd