Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19:1-42

Ioan 19:1-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio. Dyma’r milwyr yn plethu drain i wneud coron i’w rhoi am ei ben, a gwisgo clogyn porffor amdano. Yna roedden nhw’n mynd ato drosodd a throsodd, a’i gyfarch gyda’r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb. Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i’n dod ag e allan eto, i chi wybod mod i ddim yn ei gael e’n euog o unrhyw drosedd.” Daeth Iesu allan yn gwisgo’r goron ddrain a’r clogyn porffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma’r dyn!” Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a’u swyddogion e, dyma nhw’n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a’i groeshoelio eich hunain! Lle dw i’n y cwestiwn, mae e’n ddieuog.” “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai’r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae’n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw’i hun yn Fab Duw.” Pan glywodd Peilat hynny, roedd yn ofni fwy fyth. Aeth yn ôl i mewn i’r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo. “Wyt ti’n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â’r awdurdod i dy ryddhau di neu dy groeshoelio di?” Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi’i roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae’r un drosglwyddodd fi i ti’n euog o bechod llawer gwaeth.” O hynny ymlaen gwnaeth Peilat ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma’r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di’r dyn yna’n rhydd, ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy’n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!” Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‘Y Palmant’ (‘Gabbatha’ yn Hebraeg). Roedd hi’r diwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, tua canol dydd. “Dyma fe, eich brenin chi,” meddai Peilat wrth y dyrfa. Ond dyma nhw’n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!” “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat. “Cesar ydy’n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid. Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i’w groeshoelio. Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd. Aeth allan, yn cario’i groes, i’r lle sy’n cael ei alw Lle y Benglog (‘Golgotha’ yn Hebraeg). Yno, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol. Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos i’r ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg. Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond yn hytrach fod y dyn yna’n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.” Atebodd Peilat, “Dw i wedi’i ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.” Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw’n cymryd ei ddillad a’u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o’r top i’r gwaelod. Felly dyma nhw’n dweud, “Ddylen ni ddim rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna’n union wnaeth y milwyr! Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a’i fodryb hefyd, Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a’r disgybl oedd Iesu’n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda’r disgybl hwnnw. Roedd Iesu’n gwybod ei fod wedi gwneud popeth roedd gofyn iddo’i wneud. “Dw i’n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud. Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw’n trochi ysbwng yn y gwin a’i rwymo ar goesyn isop i’w godi i fyny at wefusau Iesu. Ar ôl cael diod, dyma Iesu’n dweud, “Mae e wedi’i wneud.” Yna plygodd ei ben a marw. Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a’r Saboth hwnnw’n ddiwrnod arbennig iawn, dyma’r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i’r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw’n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a’r ddau leidr iddyn nhw farw’n gynt, ac wedyn gallai’r cyrff gael eu cymryd i lawr. Felly dyma’r milwyr yn dod ac yn torri coesau’r ddau ddyn oedd wedi’u croeshoelio gyda Iesu. Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw’n barod. Yn lle torri ei goesau, dyma un o’r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan. Dw i’n dweud beth welais i â’m llygaid fy hun, ac mae beth dw i’n ddweud yn wir. Mae’r cwbl yn wir, a dw i’n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu. Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o’i esgyrn yn cael ei dorri,” ac fel mae’n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw’n edrych ar yr un maen nhw wedi’i drywanu.” Wedyn, dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw’n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff. Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes, i’w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu gyda stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl. Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd – doedd neb erioed wedi’i gladdu ynddo o’r blaen. Am ei bod hi’n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw’n rhoi Iesu i orwedd yno.

Ioan 19:1-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna cymerodd Pilat Iesu, a'i fflangellu. A phlethodd y milwyr goron o ddrain a'i gosod ar ei ben ef, a rhoi mantell borffor amdano. Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” ac yn ei gernodio. Daeth Pilat allan eto, ac meddai wrthynt, “Edrychwch, rwy'n dod ag ef allan atoch, er mwyn ichwi wybod nad wyf yn cael unrhyw achos yn ei erbyn.” Daeth Iesu allan, felly, yn gwisgo'r goron ddrain a'r fantell borffor. A dywedodd Pilat wrthynt, “Dyma'r dyn.” Pan welodd y prif offeiriaid a'r swyddogion ef, gwaeddasant, “Croeshoelia, croeshoelia.” “Cymerwch ef eich hunain a chroeshoeliwch,” meddai Pilat wrthynt, “oherwydd nid wyf fi'n cael achos yn ei erbyn.” Atebodd yr Iddewon ef, “Y mae gennym ni Gyfraith, ac yn ôl y Gyfraith honno fe ddylai farw, oherwydd fe'i gwnaeth ei hun yn Fab Duw.” Pan glywodd Pilat y gair hwn, ofnodd yn fwy byth. Aeth yn ei ôl i mewn i'r Praetoriwm, a gofynnodd i Iesu, “O ble'r wyt ti'n dod?” Ond ni roddodd Iesu ateb iddo. Dyma Pilat felly yn gofyn iddo, “Onid wyt ti am siarad â mi? Oni wyddost fod gennyf awdurdod i'th ryddhau di, a bod gennyf awdurdod hefyd i'th groeshoelio di?” Atebodd Iesu ef, “Ni fyddai gennyt ddim awdurdod arnaf fi oni bai ei fod wedi ei roi iti oddi uchod. Gan hynny, y mae'r hwn a'm trosglwyddodd i ti yn euog o bechod mwy.” O hyn allan, ceisiodd Pilat ei ryddhau ef. Ond gwaeddodd yr Iddewon: “Os wyt yn rhyddhau'r dyn hwn, nid wyt yn gyfaill i Gesar. Y mae pob un sy'n ei wneud ei hun yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn Cesar.” Pan glywodd Pilat y geiriau hyn, daeth â Iesu allan, ac eisteddodd ar y brawdle yn y lle a elwir Y Palmant (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha). Dydd Paratoad y Pasg oedd hi, tua hanner dydd. A dywedodd Pilat wrth yr Iddewon, “Dyma eich brenin.” Gwaeddasant hwythau, “Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?” Atebodd y prif offeiriaid, “Nid oes gennym frenin ond Cesar.” Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio. Felly cymerasant Iesu. Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha). Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol. Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.” Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg. Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, “Paid ag ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond yn hytrach, ‘Dywedodd ef, “Brenin yr Iddewon wyf fi.” ’ ” Atebodd Pilat, “Yr hyn a ysgrifennais a ysgrifennais.” Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwnïad, wedi ei weu o'r pen yn un darn. “Peidiwn a'i rwygo ef,” meddai'r milwyr wrth ei gilydd, “gadewch inni fwrw coelbren amdano, i benderfynu pwy gaiff ef.” Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud: “Rhanasant fy nillad yn eu mysg, a bwrw coelbren ar fy ngwisg.” Felly y gwnaeth y milwyr. Ond yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda'i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.” Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref. Ar ôl hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, “Y mae arnaf syched.” Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy'n dodi ysbwng, wedi ei lenwi â'r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau. Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd. Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-ŵyl. Felly daeth y milwyr, a thorri coesau'r naill a'r llall a groeshoeliwyd gyda Iesu. Ond pan ddaethant at Iesu a gweld ei fod ef eisoes yn farw, ni thorasant ei goesau. Ond fe drywanodd un o'r milwyr ei ystlys ef â phicell, ac ar unwaith dyma waed a dŵr yn llifo allan. Y mae'r un a welodd y peth wedi dwyn tystiolaeth i hyn, ac y mae ei dystiolaeth ef yn wir. Y mae hwnnw'n gwybod ei fod yn dweud y gwir, a gallwch chwithau felly gredu. Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: “Ni thorrir asgwrn ohono.” Ac y mae'r Ysgrythur hefyd yn dweud mewn lle arall: “Edrychant ar yr hwn a drywanwyd ganddynt.” Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatâd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr. Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef â thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg. Cymerasant gorff Iesu, a'i rwymo, ynghyd â'r peraroglau, mewn llieiniau, yn unol ag arferion claddu'r Iddewon. Yn y fan lle croeshoeliwyd ef yr oedd gardd, ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd nad oedd neb erioed wedi ei roi i orwedd ynddo. Felly, gan ei bod yn ddydd Paratoad i'r Iddewon, a chan fod y bedd hwn yn ymyl, rhoesant Iesu i orwedd ynddo.

Ioan 19:1-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano; Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau. Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn. Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo. Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd? Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar. Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. A darpar-ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar. Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol. A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi. Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais. Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen. Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref. Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd. Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar-ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef. Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef. Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono. A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant. Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.