Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 18:28-38

Ioan 18:28-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Aeth yr arweinwyr Iddewig â Iesu oddi wrth Caiaffas i’r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi’n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i’r pencadlys, am eu bod nhw eisiau osgoi torri’r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg. Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy’r cyhuddiadau yn erbyn y dyn yma?” “Fydden ni ddim wedi’i drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw. “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i’w farnu.” “Ond does gynnon ni mo’r awdurdod i’w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw. (Digwyddodd hyn fel bod yr hyn ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.) Aeth Peilat yn ôl i mewn i’r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o’i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Wyt ti’n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?” “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a’u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi’i wneud?” Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i’m cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.” “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat. Atebodd Iesu, “Ti sy’n defnyddio’r gair ‘brenin’. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i’r byd ydy i dystio i beth sy’n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.” “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat.

Ioan 18:28-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aethant â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg. Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, “Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?” Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.” Yna dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth.” Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros. Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?” Atebodd Pilat, “Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?” Atebodd Iesu, “Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.” Yna meddai Pilat wrtho, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu?” “Ti sy'n dweud fy mod yn frenin,” atebodd Iesu. “Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” Meddai Pilat wrtho, “Beth yw gwirionedd?” Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto at yr Iddewon ac meddai wrthynt, “Nid wyf fi'n cael unrhyw achos yn ei erbyn.

Ioan 18:28-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw. Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.