Ioan 18:1-17
Ioan 18:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddo ddweud hyn, aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion. Yr oedd Jwdas hefyd, ei fradychwr, yn gwybod am y lle, oherwydd yr oedd Iesu lawer gwaith wedi cyfarfod â'i ddisgyblion yno. Cymerodd Jwdas felly fintai o filwyr, a swyddogion oddi wrth y prif offeiriaid a'r Phariseaid, ac aeth yno gyda llusernau a ffaglau ac arfau. Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” Atebasant ef, “Iesu o Nasareth.” “Myfi yw,” meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy. Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr. Felly gofynnodd iddynt eilwaith, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” “Iesu o Nasareth,” meddent hwythau. Atebodd Iesu, “Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd.” Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: “Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi.” Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus. Ac meddai Iesu wrth Pedr, “Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Onid wyf am yfed y cwpan y mae'r Tad wedi ei roi imi?” Yna cymerodd y fintai a'i chapten, a swyddogion yr Iddewon, afael yn Iesu a'i rwymo. Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl. Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad, ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn. A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.
Ioan 18:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu’n croesi Dyffryn Cidron gyda’i ddisgyblion. Dyma nhw’n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi. Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a’i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith. Felly aeth Jwdas i’r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi’u hanfon gan y prif offeiriaid a’r Phariseaid. Roedden nhw’n cario ffaglau a lanternau ac arfau. Roedd Iesu’n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi’n edrych?” “Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!) Pan ddwedodd Iesu, “Fi ydy e,” dyma nhw’n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr. Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?” A dyma nhw’n dweud, “Iesu o Nasareth.” “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy’r un dych chi’n edrych amdano, gadewch i’r dynion yma fynd yn rhydd.” (Er mwyn i beth ddwedodd e’n gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o’r rhai roist ti i mi.”) Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw’r gwas.) “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti’n meddwl mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o’r cwpan chwerw mae’r Tad wedi’i roi i mi?” Dyma’r fintai o filwyr a’i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a’i rwymo. Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. (Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i’r arweinwyr Iddewig y byddai’n well i un person farw dros y bobl.) Dyma Simon Pedr ac un arall o’r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ’r archoffeiriad. Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma’r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio’r ferch oedd yn cadw’r drws i adael Pedr i mewn. Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti’n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.”
Ioan 18:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith: Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un. Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef? Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef, Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl. Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad. A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.