Ioan 17:11-12
Ioan 17:11-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw’n dal yn y byd. Dw i’n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw’r rhai wyt ti wedi’u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni’n un. Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi’u cadw nhw’n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i’r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.
Ioan 17:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid wyf fi mwyach yn y byd, ond y maent hwy yn y byd. Yr wyf fi'n dod atat ti. O Dad sanctaidd, cadw hwy'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. Pan oeddwn gyda hwy, yr oeddwn i'n eu cadw'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi. Gwyliais drostynt, ac ni chollwyd yr un ohonynt, ar wahân i fab colledigaeth, i'r Ysgrythur gael ei chyflawni.
Ioan 17:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.