Ioan 17:1-3
Ioan 17:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i’r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae’r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di. Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i’r rhai roist ti i berthyn i mi. Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon.
Ioan 17:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: “O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di. Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef. A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
Ioan 17:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.