Ioan 16:31-33
Ioan 16:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu hwy, “A ydych yn credu yn awr? Edrychwch, y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod, pan gewch eich gwasgaru bob un i'w le ei hun, a'm gadael i ar fy mhen fy hun. Ac eto, nid wyf ar fy mhen fy hun, oherwydd y mae'r Tad gyda mi. Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
Ioan 16:31-33 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Dych chi’n credu ydych chi?” meddai Iesu. “Mae’r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi’n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi’n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi. “Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael profi’r heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro’r byd.”
Ioan 16:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.