Ioan 16:23-24
Ioan 16:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i’w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i’w wneud. Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi’n wirioneddol hapus!
Ioan 16:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi. Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.
Ioan 16:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.