Ioan 16:21-23
Ioan 16:21-23 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae gwraig mewn poen pan mae’n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni – mae hi’n anghofio’r poen! Yr un fath gyda chi: Dych chi’n teimlo’n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i’n eich gweld chi eto a byddwch yn dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi. Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i’w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i’w wneud.
Ioan 16:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio'r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i'r byd. Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch. Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.
Ioan 16:21-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.