Ioan 16:16-17
Ioan 16:16-17 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.” Dyma’i ddisgyblion yn gofyn i’w gilydd, “Beth mae’n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto’? A beth mae ‘Am fy mod i’n mynd at y Tad’ yn ei olygu?
Ioan 16:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i ddim mwy, ac ymhen ychydig wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld.” Yna meddai rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, “Beth yw hyn y mae'n ei ddweud wrthym, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’, ac ‘Oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad’?
Ioan 16:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?