Ioan 16:13-14
Ioan 16:13-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae’n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd. Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i’n ddweud a’i rannu gyda chi.
Ioan 16:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd. Oherwydd nid ohono'i hun y bydd yn llefaru; ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a'r hyn sy'n dod y bydd yn ei fynegi i chwi. Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
Ioan 16:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.