Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 16:1-15

Ioan 16:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i. Byddwch chi’n cael eich diarddel o’r synagog. Ac mae’r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw’n gwneud ffafr i Dduw os gwnân nhw’ch lladd chi. Byddan nhw’n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi. Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, felly pan ddaw’r amser hwnnw byddwch chi’n cofio fy mod i wedi’ch rhybuddio chi. Dw i ddim wedi dweud hyn wrthoch chi o’r dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi. “Bellach dw i’n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi’n gofyn, ‘Ble rwyt ti’n mynd?’ Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi’n drist i gyd. Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi mod i’n mynd i ffwrdd. Os gwna i ddim mynd, fydd yr un sy’n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i’n ei anfon atoch chi. Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau’r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir: o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi; o gyfiawnder am fy mod i’n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i o hyn ymlaen; ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio tywysog y byd hwn. “Mae gen i lawer mwy i’w ddweud wrthoch chi, ond mae’n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd. Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae’n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd. Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i’n ddweud a’i rannu gyda chi. Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i’n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i’n ddweud a’i rannu gyda chi.

Ioan 16:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych i'ch cadw rhag cwympo. Fe'ch torrant chwi allan o'r synagogau; yn wir y mae'r amser yn dod pan fydd pawb fydd yn eich lladd chwi yn meddwl ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw. Fe wnânt hyn am nad ydynt wedi adnabod na'r Tad na myfi. Ond yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych er mwyn ichwi gofio, pan ddaw'r amser iddynt ddigwydd, fy mod i wedi eu dweud wrthych. “Ni ddywedais hyn wrthych o'r dechrau, oherwydd yr oeddwn i gyda chwi. Ond yn awr, yr wyf yn mynd at yr hwn a'm hanfonodd i, ac eto nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘Ble'r wyt ti'n mynd?’ Ond am fy mod wedi dweud hyn wrthych, daeth tristwch i lenwi eich calon. Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch. A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn; ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi; ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy; ynglŷn â barn am fod tywysog y byd hwn wedi cael ei farnu. “Y mae gennyf lawer eto i'w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd. Ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd. Oherwydd nid ohono'i hun y bydd yn llefaru; ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a'r hyn sy'n dod y bydd yn ei fynegi i chwi. Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi. Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.

Ioan 16:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.