Ioan 15:7-9
Ioan 15:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi. Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi. Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i.
Ioan 15:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu. “Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.
Ioan 15:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi. Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.